top of page

Clwb ar Ôl Ysgol

after school club.jpg

Clwb ar Ôl Ysgol/Clwb Chwarae Corris

 

Mae Clwb Chwarae Corris ar gyfer plant 4 - 14 oed. Fe'i cynhelir rhwng 3.30pm a 5.30pm y ' 'pnawn o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor. Mae'r plant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau chwarae hunan gyfeiriedig dan ofal staff ymroddedig a phrofiadol. Ceir yma gelf a chrefft, yn ogystal â gemau, teganau, deunyddiau adeiladu cuddfan a chyfrifiadur Wii, a darperir tost, ffrwythau a diod poeth neu oer.

 

Lleoedd ‘Chwarae ar y Dydd’:  Y gost yw £3 y sesiwn i bob plentyn, ar yr amod bod lle ar gael ar y diwrnod, a bod rhiant neu ofalwr yn trosglwyddo’r plant/plentyn i staff y Clwb Chwarae wrth gatiau'r ysgol ar ddiwedd y dydd.

 

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth gofal plant pan nad yw rhieni a gofalwyr yn gallu cwrdd â'u plant o'r ysgol. Bydd staff y Clwb Chwarae yn casglu plant o gatiau'r ysgol. Gellir archebu’r lleoedd hyn ymlaen llaw  ar gost o rhwng £5.50 a £7 y plentyn.

​

Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer brodyr a chwiorydd sy'n mynychu gyda'i gilydd, ar gyfer lleoedd Chwarae ar y Dydd a Gofal Plant.

 

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, ffoniwch 07780 460329.

​

bottom of page