top of page

Yr Ystafell De Gymunedol

Mae'r Ystafell De ar gau ar hyn o bryd oherwydd Covid 19. Gweler  ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau am ail-agor yn y dyfodol.

 

Cyn hyn roedd ar agor dri bore'r wythnos: Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Gwener rhwng 10.00 y bore ac 12.30 y 'pnawn.

Er mai byr yw’r fwydlen mae hi yn flasus! Daw pob math o bobl i ymweld - o bobl lleol sy’n gwsmeriaid cyson  i feicwyr a cherddwyr sy'n pasio,  ynghyd ac amrywiaeth diddorol o ymwelwyr o dramor.

​Tîm bach, cyfeillgar o wirfoddolwyr sy’n rhedeg yr Ystafell De. Mae'r tîm bob amser yn barod i groesawu gwirfoddolwyr newydd sy'n mwynhau cyfarfod â phobl, a thrwy hynny’n sicrhau parhad adnodd gwerthfawr i'r pentref

​Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli defnyddiwch y ffurflen gysylltu.

bottom of page