top of page

Neuadd ac ystafelloedd i'w llogi

hall.jpg

ADNODDAU

 

Mae gan y Institiwt amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i'w llogi gan grwpiau ac unigolion. Os hoffech archebu lle, cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein. Gallwch wirio argaeledd ar y calendr.

 

Y Neuadd 

Gellir defnyddio'r neuadd fawr yn ei chyfanrwydd ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau, neu gellir ei rhannu; sydd eto yn cynnig digon o le ar gyfer grwpiau a chyfarfodydd.

 

 

Y Gegin a'r Caffi

Mae’r Caffi ar agor ar adegau penodol o’r wythnos, ac os ydych yn llogi’r neuadd yn ystod yr amseroedd hyn mae modd prynu lluniaeth o’r Caffi. Fel arall, os oes gennych angen mynediad i'r gegin pan yn llogi, gellir trefnu hyn cyn belled a bod y gegin ar gael. Nodwch ar y ffurflen archebu os byddwch angen defnydd o'r gegin.

​

Gofod Swyddfa: Mynediad i'r rhyngrwyd

Os oes angen gofod swyddfa achlysurol arnoch gyda mynediad i'r rhyngrwyd gallwch ddefnyddio'r ystafell dawel i fyny'r grisiau. Dim ond pan fydd yr Ystafell De ar agor mae’r ystafell hon ar gael.

​

Ystafell Snwcer

Cysylltwch am ragor o wybodaeth.

 

​

 

TELERAU AC AMODAU

 

Bydd angen darllen a chytuno i'n telerau ac amodau wrth archebu.

 

Pris llogi ar gyfer grwpiau yw £10 yr awr, neu £20 am sesiwn  rhwng 2awr a  2.5 awr (llogi rheolaidd).

​

Llogi ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus neu breifat (neuadd a chegin os oes angen) -  £40 y noson neu ran o ddiwrnod.

​

Ar gyfer grwpiau di-elw lleol sydd am ddefnyddio’r Institiwt codir ffi gostyngol o £10 y sesiwn.

(Sesiwn -  slot bore, prynhawn neu fin nos rhwng 2awr a  2.5 awr.

​

Ar gyfer defnyddio'r Neuadd a'r Gegin ar gyfer digwyddiadau a redir gan gwmnïau neu ddigwyddiadau corfforaethol, codir ffi o £95 y dydd

 

Llogi ar gyfer te angladd - £55.

​

Ystafell Snwcer - £5 yr awr.

​

Gellir cynnwys defnydd o'r gegin wrth archebu, y tu allan i oriau'r caffi.

 

 

​

​

​

bottom of page